Dipyn o wefr i ni yw bod Daina Ashbee yn ymuno â ni ar gyfer preswyliad wythnos ar ei hyd yn Chapter fel rhan o’r Ŵyl eleni.
Artist, perfformwraig a choreograffydd yw Daina Ashbee sydd â’i chartref yn Montréal. Mae’n adnabyddus am ei gweithiau radical ar ymylon y ddawns a’r byd perfformio sy’n ymdrin mewn ffordd ddeallus â thabŵs a phynciau cymhleth megis rhywioldeb benywaidd, hunaniaeth Métis a newid yn yr hinsawdd.
Ar hyn o bryd mae Daina’n gweithio ar ddau gynhyrchiad newydd a fydd yn cael eu perfformio am y tro cyntaf yn 2020. Bydd yn treulio amser yn datblygu un o’r rhain tra bydd hi gyda ni yng Nghaerdydd.
Bydd y Stiwdio Agored yma’n gyfle i Daina rannu â ni beth mae wedi bod yn gweithio arno ar ddiwedd ei phreswyliad.
Daina yw’r artist preswyl yn Agora de la danse ac artist cyswllt Centre de Création O Vertigo (CCOV).