Mae Interruption yn dwyn at ei gilydd artistiaid o Basement 21 yn Chennai, India ac ymarferwyr o Gymru.
Bydd y digwyddiad Stiwdio Agored hwn yn gyfle i ddysgu mwy am y gwaith maent yn ei wneud ac am wahanol brosesau creadigol yr artistiaid sy’n cymryd rhan.
Yn arwain Interruption o Basement 21 mae:
Preethi Athreya, coreograffydd
Padmini Chettur, coreograffydd
Pravin Kannanur, cyfarwyddwr theatr ac artist gweledol
Maarten Visser, cerddor a chyfansoddwr.
Ymhlith yr ymarferwyr o Gymru sy’n cymryd rhan mae’r coreograffwyr Siriol Joyner a Joanna Young.
Gallwch gael hyd i fanylion yma am ddiwrnod perfformio’r prosiect sef dydd Gwener 17 Tachwedd.
Rhan o Flwyddyn Diwylliant y DU-India 2017 yw Interruption ac mae wedi’i chefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig.