Yn ysbryd chwareus a disgybledig gwaith Karl, bydd Dropping Stitches yn edrych ar syniadau am sut mae perfformiad yn cael ei greu.
Beth sy’n weddill pan fydd syniadau’n cael eu gadael ar ôl? Pa awgrym o’r pethau rydyn ni’n eu rhoi o’r neilltu sy’n cael ei ymgorffori yn y gwaith y mae’r gynulleidfa yn ei brofi? A yw ‘pwythau coll’ yn ychwanegu at wead darn o goreograffi?
Coreograffydd, perfformiwr a chyflwynydd yw Karl Jay-Lewin sydd â’i gartref yn Findhorn yn yr Alban. Cyfarwyddwr creadigol Bodysurf Scotland yw Karl sy’n rhaglennu ac yn cyfarwyddo ei ŵyl dawns a pherfformio cyfoes, RISE!
Pryd a ble?
Dydd Llun 13 Tachwedd
10yb tan hanner dydd
Chapter
Cost: £6
E-bostiwch groundworkprocardiff@gmail.comi i gadw lle.