GDdC15 Cysylltiadau rhyngwladol
Y gwyliau sydd orau gynnon ni yw’r rhai sy’n dod ag artistiaid at ei gilydd o wahanol leoedd. Roeddem yn awyddus i hyn fod yn rhan o gymysgedd Gŵyl Ddawns Caerdydd. Mae ffiniau dawns hefyd yn ddigon llac. Gall perfformwyr mewn un cwmni ddod o leoedd tra gwahanol. Gall coreograffwyr llwyddiannus deithio ar draws y byd yn creu gwaith.
O fewn ein rhaglen, ceir pob math o amrywiadau rhyngwladol. Roeddem yn meddwl efallai y byddai gynnoch chi ddiddordeb mewn rhai o’r lleoedd a’r cysylltiadau.
—Mae’r tîm a wnaeth Dawns Ysbrydion yn hanu o Gymru a Chanada. Dyma gydweithrediad cyfoethog sydd â’i wreiddiau yn niwylliant y ddwy genedl.
—O Sardinia a Gwlad y Basg y daw Igor a Moreno. Maent yn byw yn Llundain (canolbwynt byd-eang i wneuthurwyr dawns).
—Coreograffwyr o Ewrop sydd wedi creu’r tri darn sy’n cael eu perfformio gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
—Daw dawnswyr y cwmni o Ffrainc, yr Eidal, Sbaen a’r DU.
—Daw Dana Michel o Montreal yn Québec.
—Eidalwr yw Matteo Fargion. Roedd yn byw ym Mrwsel am flynyddoedd lawer ac erbyn hyn mae’n byw yn Llundain.
—Daw Jan Martens o Wlad Belg ac mae’n byw ym Mrwsel.
Mae eu gwahanol bersbectifau’n cyfoethogi ein gŵyl. Maent yn dod â’u bydoedd nhw i’n byd ni.